Rheoli'r cyfweliad
Faint bynnag o baratoi a wnewch o flaen llaw, mae mynd i gyfweliad fel arfer yn eich gwneud bach yn nerfus. Peidiwch â gwneud y camgymeriad o feddwl, ar ôl mynd i mewn i'r ystafell, bod y sefyllfa allan o'ch rheolaeth. Mae yna nifer o dechnegau o hyd y gallwch eu defnyddio i sicrhau bod y panel yn eich gweld yn y golau gorau posibl.
Paratoi ar gyfer cyfweliad
Efallai ei fod yn ymddangos yn amlwg ond mae'n bwysig eich bod chi'n paratoi ar gyfer y diwrnod.
- Gwnewch yn siŵr eich bod yn gyfarwydd â'r disgrifiad swydd a manyleb y person.
- Atgoffwch eich hun o'r hyn a ysgrifennwyd gennych yn eich cais ar sut y gwnaethoch fodloni'r gofynion hynny.
- Dysgwch am y sefydliad ei hun – beth sy’n ei wneud yn wahanol i eraill ac a fydd y gwahaniaethau hynny’n effeithio ar eich gwaith.
- Meddyliwch am ba fath o gwestiynau a ofynnir amdanoch chi'ch hun ac ysgrifennwch rai meddyliau ar sut y gallech chi eu hateb nhw.
- Paratowch rai cwestiynau i'w gofyn i'r panel. Byddwch yn ofalus i beidio â gofyn am wybodaeth sydd eisoes wedi cael ei ddarparu neu ei thrafod yn ystod y cyfweliad.
Argraffiadau cyntaf
Mae yna cwpl o gamau syml i'w cymryd er mwyn creu argraff gyntaf dda:
- Cyrhaeddwch mewn digon o amser a chaniatewch ar gyfer cynlluniau wrth gefn. Cofiwch y gall fod yn eithaf anodd teithio i ac o rai sefydliadau. Sicrhewch fod gennych 'Gynllun B' ar gyfer sut y byddwch yn cyrraedd y cyfweliad. Os byddwch yn cael eich oedi, gwnewch yn siŵr eich bod yn hysbysu'r person priodol yn y sefydliad cyn gynted â phosibl.
- Gwisgwch yn briodol gan wneud yn siŵr eich bod yn anfon yr arwyddion cywir am eich hyder, hunanddisgyblaeth a chrebwyll. Gallai fod yn ddefnyddiol gwirio cod gwisg y sefydliad trwy edrych ar luniau o staff ar wefan y sefydliad neu holi o gwmpas.
Yn ystod y cyfweliad
- Gwnewch gyswllt llygad â holl aelodau'r panel cyfweld. Peidiwch â chanolbwyntio ar y person sydd wedi gofyn y cwestiwn yr ydych yn ei ateb yn unig. Mae’n bwysig ymgysylltu â phawb.
- Gwenwch! Mae'n awgrymu hyder.
- Byddwch yn glir ac yn gryno yn eich ymatebion.
- Strwythurwch eich atebion gyda 3 neu 4 prif bwynt o enghreifftiau o'ch profiad eich hun.
- Peidiwch â chymryd yn ganiataol bod y panel yn gwybod y manylion am yr hyn sydd yn eich ffurflen gais neu CV.
- Gwerthwch eich hun - rhowch enghreifftiau go iawn o 'sut' rydych wedi cyflawni canlyniad cadarnhaol, nodwch beth oedd y rhain a'r manteision. Byddwch yn glir ynghylch beth oedd eich cyfraniad personol.
- Cofiwch ddefnyddio enghreifftiau sy'n cynnwys 'fi' yn hytrach na 'ni'.
- Gwnewch yn siŵr eich bod yn deall cenhadaeth y sefydliad ac yn gallu siarad am pam ei fod yn bwysig i chi.
- Byddwch yn ymwybodol o iaith eich corff. Rydych chi eisiau cyfleu eich bod chi'n frwdfrydig, yn gadarnhaol ac yn egnïol.
- Cofiwch ofyn cwestiynau gan ei fod yn helpu i ddangos eich bod yn awyddus ac eisiau'r swydd.
- Byddwch yn gadarnhaol bob amser.