Telerau ac Amodau Ymgeisydd ar gyfer NHS Jobs

22 Gorffennaf 2025

Drwy fwrw ymlaen i gael mynediad at y Gwasanaeth hwn rydych yn cytuno i fod yn gyfreithiol rhwym i'r telerau ac amodau hyn sy'n nodi'r defnydd derbyniol o Wasanaeth NHS Jobs a ddarperir gan Awdurdod Gwasanaethau Busnes y GIG.

Diffiniadau

Mae "Ni" yn golygu Awdurdod Gwasanaethau Busnes y GIG (NHS Business Services Authority) sy'n darparu Swyddi'r GIG.

Cyfathrebu

Mae'n rhaid i chi roi cyfeiriad e-bost personol dilys pan fyddwch yn cofrestru gyda Swyddi'r GIG ac eto ar gyfer pob cais rydych yn eu cyflwyno.

Os byddwch yn rhoi cyfeiriad e-bost anghywir yna ni fyddwch yn derbyn negeseuon a anfonir gan Swyddi'r GIG mewn cysylltiad â'ch cyfrif, ac ni fyddwch yn derbyn negeseuon a anfonir mewn perthynas â chais gan y recriwtiwr. Nid ydym yn gwarantu y bydd cyfathrebu trwy e-bost yn ddibynnol a dylech wirio statws unrhyw gais ar Swyddi'r GIG neu gyda'r cyflogwr os byddwch yn pryderu.

Os byddwch yn rhoi rhif ffôn symudol yn y DU ac wedi cytuno i dderbyn negeseuon testun yna bydd Swyddi'r GIG yn anfon nodiadau atgoffa atoch am ddyddiadau cyfweliadau a digwyddiadau dewisol eraill trwy negeseuon testun. Fe'ch cynghorir na allwn warantu y bydd negeseuon testun bob amser yn eich cyrraedd, felly ni ddylech ddibynnu ar nodiadau atgoffa a hysbysiadau a anfonir trwy negeseuon testun.

Cyfrineiriau a Diogelwch

Dylid cadw cyfrineiriau mewn amgylchedd diogel ac ni ddylid eu rhannu. Dylid dweud wrth ddesg cymorth Swyddi'r GIG yn syth am unrhyw doriadau amheus o ddiogelwch.

Ceisiadau

  • Os hoffech gael eich ystyried ar gyfer swydd a hysbysebir ar NHS Jobs, rhaid i chi lenwi a chyflwyno ffurflen gais ar gyfer y swydd honno.
  • Gall rhai sefydliadau ddefnyddio system recriwtio trydydd parti i gasglu ceisiadau. Efallai y cewch eich ailgyfeirio felly o NHS Jobs i'r system trydydd parti honno.
  • Efallai y bydd rhai sefydliadau yn gofyn i chi uwchlwytho CV fel rhan o'ch cais. Os oes angen cymorth arnoch gyda hyn, cysylltwch â'r sefydliad recriwtio.
  • Rhaid i'r wybodaeth a roddwch yn eich ceisiadau/CVs fod yn wir, yn gyflawn ac yn gywir.
  • Mae datganiad wedi'i gynnwys yn y ffurflen gais ar NHS Jobs a ystyrir, pan gytunir arno wrth gyflwyno'r ffurflen gais, yn ddilys ac yn rhwymol.
  • Os byddwch, ar ôl i chi gyflwyno eich ffurflen gais, yn nodi eich bod wedi gwneud camgymeriad, chi sy'n gyfrifol am gysylltu â'r sefydliad sy'n eich cyflogi yn uniongyrchol.
  • Ni ddylai eich cais am swydd nac unrhyw ddeunydd arall a roddwch i NHS Jobs gynnwys unrhyw ddeunydd sy'n:
  • ffug, camarweiniol, difenwol, gwahaniaethol, bygythiol, sarhaus, yn debygol o achosi pryder neu drallod i rywun, annog trais neu gasineb, cableddus, pornograffig, torri cyfrinachedd, torri preifatrwydd, anghyfreithlon, aflonyddu, enllibus, niweidiol neu'n ddigywilydd.
  • Rhaid i chi beidio â phostio deunydd sy'n dechnegol niweidiol (gan gynnwys, heb gyfyngiad, firysau cyfrifiadurol, neu feddalwedd maleisus arall).
  • Mae swyddi gwag yn cael eu hysbysebu ar NHS Jobs gan gyflogwyr sy'n recriwtio. Nid ydym yn gyfrifol am gynnwys hysbysebion nac ymddygiad y cyflogwyr recriwtio sy'n defnyddio NHS Jobs.
  • Os oes gennych unrhyw ymholiadau ynglŷn â hysbyseb dylech gysylltu â'r cyflogwr recriwtio a osododd yr hysbyseb yn uniongyrchol.
  • Mae ceisiadau ac unrhyw atodiadau cysylltiedig yn cael eu hasesu gan y cyflogwr sy'n recriwtio a chaiff pob penderfyniad sy'n ymwneud â cheisiadau ei wneud gan y cyflogwr sy'n recriwtio ac nid gennym ni.
  • Dylid cyfeirio unrhyw geisiadau am wybodaeth sy'n ymwneud â'ch cais yn uniongyrchol at y cyflogwr sy'n recriwtio.
  • Ni fyddwn yn gyfrifol, nac yn atebol i unrhyw drydydd parti, am gynnwys na chywirdeb unrhyw ddeunyddiau a gyflwynir gennych.
  • Mae ceisiadau am swyddi ac unrhyw atodiadau cysylltiedig yn cael eu cadw ar NHS Jobs am hyd at 460 diwrnod ar ôl y dyddiad cau, yn dibynnu ar yr hysbyseb berthnasol neu'r dyddiad cau, ac yna'n cael eu dileu.
  • Os oes angen i chi gael mynediad at ffurflen gais ac unrhyw atodiadau neu hysbyseb ac atodiadau sy'n ymwneud â'r swydd wag, rydym yn argymell eich bod yn gwneud copi a'i gadw o fewn 400 diwrnod i ddyddiad cau'r hysbyseb gan mai dyma'r cyfnod byrraf y byddwn yn cadw eich data.
  • Cedwir data ar gyfer y cyfnod hwn ar NHS Jobs i ganiatáu i sefydliad sy’n cyflogi i ailedrych ar ddata swyddi gwag a cheisiadau rhag ofn bod angen ail-hysbysebu’r swydd wag, mae angen adolygu ceisiadau mewn rhai achosion e.e. ymgeisydd llwyddiannus yn gwrthod cynnig a gofynion data gwiriad cyn cyflogaeth.

Diogelu Data a Phreifatrwydd

  • Diffinnir ("Deddfwriaeth Diogelu Data") fel Deddf Diogelu Data 2018 (DPA), Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol y DU (UK GDPR), Deddf Rheoleiddio Pwerau Ymchwilio 2000, Rheoliadau Telathrebu (Arferion Busnes Cyfreithlon) (Rhyng-gipio Cyfathrebiadau) 2000 (SI 2000/2699), Cyfarwyddeb Diogelu Data Cyfathrebiadau Electronig 2002/58/EC, Rheoliadau Preifatrwydd a Chyfathrebu Electronig (Cyfarwyddeb y CE) 2003 (PECR) a'r holl gyfreithiau a rheoliadau perthnasol sy'n ymwneud â phrosesu data personol a phreifatrwydd, gan gynnwys, lle ei fod yn berthnasol, y canllawiau a'r codau ymarfer a gyhoeddwyd gan y Comisiynydd Gwybodaeth.
  • Yr Adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol (DHSC) yw rheolydd data cyffredinol gwasanaeth NHS Jobs ac mae'n cadw'r hawl i alluogi Awdurdod Gwasanaethau Busnes y GIG (NHSBSA) i ddefnyddio'ch data i alluogi'r canlynol.
  • personoli eich ymweliadau â NHS Jobs, deall profiad y defnyddiwr a gwella'r gwasanaethau a ddarperir i chi.
  • dweud wrthych am y newidiadau diweddaraf i NHS Jobs.
  • darparu gwasanaeth cwsmeriaid a chefnogaeth.
  • cyfathrebu â chi ar lefel bersonol.
  • cysylltu â chi i ddeall sut rydych chi'n defnyddio'r wefan a gwneud gwelliannau.
  • mesur perfformiad ein gwasanaeth.
  • profi ein gwasanaeth wrth naill ai rhoi swyddogaethau newydd ar waith neu gefnogi ymchwiliadau yn ystod adegau o darfu ar wasanaethau.
  • trosglwyddo data o wasanaeth yn rheolaidd i warws data NHSBSA.
  • cyfuno data o NHS Jobs, Cofnod Gwasanaeth Electronig y GIG, a systemau Pensiynau'r GIG i helpu'r GIG i ddeall llwybrau gyrfa a llywio gallu a chynllunio'r gweithlu.
  • NHSBSA yw Rheolydd (fel y diffinnir gan GDPR y DU) unrhyw wybodaeth a roddir i NHS Jobs, cyn i gais gael ei gyflwyno i'r sefydliad recriwtio h.y. proffil ymgeisydd a chwiliadau wedi'u cadw ac ati.
  • Y sefydliad recriwtio yw Rheolydd data'r ymgeisydd ar ôl i chi gyflwyno'ch cais.
  • Mae gan NHS Jobs ryngwyneb i'r System Cofnodi Staff Electronig (ESR) sy'n system gyflogres ac adnoddau dynol a ddefnyddir gan y rhan fwyaf o sefydliadau'r GIG a chan nifer o sefydliadau eraill sy'n darparu gwasanaethau'r GIG.
  • Gellir trosglwyddo'r data a gyflwynwch i NHS Jobs i ESR at ddibenion: sefydlu'r cofnod adnoddau dynol a chyflogres; cwblhau'r broses recriwtio neu rannau o'r broses ar ESR; neu at ddibenion adrodd megis monitro cyfle cyfartal.
  • Bydd yr NHSBSA yn gweithio gyda'r Adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol, ei hasiantaethau, sefydliadau partner, sefydliadau Cydffederasiwn y GIG ac asiantaethau rheoleiddio annibynnol lle mae ei angen i gyflawni dyletswyddau swyddogol, megis, ond heb fod yn gyfyngedig i: cynllunio'r gweithlu; datblygu polisïau'r GIG; a chynhyrchu ystadegau swyddogol neu i gael mewnwelediad a fyddai'n darparu manteision i'r GIG ehangach.
  • Ni fyddwn yn trosglwyddo eich data personol y tu allan i'r Deyrnas Unedig, Dibynwledydd y Goron na Thiriogaethau Tramor Prydain.
  • Os byddwch yn gwneud cais am swydd ar NHS Jobs yna bydd gan y cyflogwr a hysbysebodd y swydd fynediad at eich cais ac unrhyw ddeunydd arall a gyflwynwch i gefnogi'r cais.
  • Bydd unrhyw atodiadau sy'n cyd-fynd â'ch cais yn weladwy i'r panel sy'n llunio'r rhestr fer. Nodwch nad yw'r adrannau monitro a diogelu yn weladwy i'r panel sy'n llunio'r rhestr fer.
  • Mae'n bosibl y bydd yr adran ddiogelu yn weladwy i'r panel cyfweld ond mae hynny'n dibynnu ar y sefydliad recriwtio unigol.
  • Gall cyflogwyr gopïo a chadw rhywfaint neu'r holl ddata yn lleol yn eu systemau eu hunain i hwyluso eu gweinyddiaeth o'r ymarfer recriwtio.
  • Mae gan sefydliad sy'n cyflogi rwymedigaeth i roi gwybod i chi sut mae'n prosesu data eich cais gan gynnwys ond heb fod yn gyfyngedig i:
  • gwneud penderfyniadau awtomatig ar ddethol.
  • ddiweddaru gwybodaeth y mae'r sefydliad sy'n cyflogi wedi'i lawrlwytho o NHS Jobs.
  • dynnu cais yn ôl y mae'r sefydliad sy'n cyflogi wedi'i lawrlwytho o NHS Jobs.
  • sut mae'r sefydliad sy'n cyflogi yn ymdrin ag atodiadau sy'n cyd-fynd â'r ffurflen gais.
  • beth mae'r sefydliad sy'n cyflogi yn defnyddio'r data Cydraddoldeb ac Amrywiaeth ar ei gyfer.
  • sut mae'r sefydliad sy'n cyflogi yn ymdrin ag unrhyw bryderon diogelu.

Gallwch weld yr hysbysiad preifatrwydd yma (Yn agor mewn tab newydd).

Argaeledd

Ni fyddwn yn atebol os nad yw NHS Jobs ar gael ar unrhyw adeg neu am unrhyw gyfnod am unrhyw reswm.

Rydym yn cadw'r hawl i gyfyngu mynediad i NHS Jobs i gyd neu rai rhannau ohono os, yn ein barn ni, rydych wedi methu â chydymffurfio â'r Telerau ac Amodau.

Eiddo Deallusol a Defnydd a Ganiateir

Awdurdod Gwasanaethau Busnes y GIG yw perchnogion neu ddeiliaid trwydded yr hawliau eiddo deallusol yn NHS Jobs a'r deunydd a gyhoeddir arnynt. Mae'r gweithiau hynny'n cael eu diogelu gan gyfreithiau hawlfraint a chytundebau ledled y byd. Cedwir pob hawl o'r fath.

Gallwch argraffu a lawrlwytho darnau o Swyddi'r GIG at ddefnydd personol, anfasnachol yn seiliedig ar y canlynol:

  • na addasir unrhyw ddogfennau na graffeg gysylltiedig mewn unrhyw fodd;
  • na ddefnyddir unrhyw graffeg ar wahân i destun cysylltiedig; ac
  • na ddilëir unrhyw hysbysiadau hawlfraint a nod masnach.

Ac rydych yn cytuno i beidio â:

  • defnyddio Swyddi'r GIG at ddibenion masnachol heb dderbyn cytundeb ysgrifenedig ymlaen llaw gennym; neu
  • gopïo, atgynhyrchu, dosbarthu, ailgyhoeddi, lawrlwytho, arddangos, postio neu drosglwyddo mewn unrhyw ffurf neu mewn unrhyw fodd unrhyw ran o'r cynnwys ar Swyddi'r GIG heblaw fel y caniateir uchod.

Cynnwys a Dolenni Trydydd Parti

Nid ydym yn atebol nac yn gyfrifol am unrhyw gynnwys trydydd parti ar Swyddi'r GIG. Mae cynnwys trydydd parti yn cynnwys, er enghraifft, ddeunydd sy'n cael ei bostio gan ddefnyddwyr eraill Swyddi'r GIG a hysbysebion swyddi gwag.

Pan fydd Swyddi'r GIG yn cynnwys dolenni i wefannau ac adnoddau eraill a ddarperir gan drydydd parti, darperir y dolenni a'r adnoddau hyn er eich gwybodaeth yn unig ac rydych yn eu defnyddio yn gwbl ar eich menter eich hun. Nid ydym yn atebol nac yn gyfrifol am gynnwys gwefannau neu adnoddau trydydd parti.

Swyddi trwy Wasanaeth E-bost

Mae'r Swyddi trwy Wasanaeth E-bost yn cyfateb gofynion ceiswyr gwaith ar gyfer cyflogaeth â phroffil y swyddi gwag ar Swyddi'r GIG. Mae ceiswyr gwaith sy'n tanysgrifio i'r gwasanaeth hwn yn derbyn e-bost yn rhestru'r swyddi hynny sy'n cyfateb i'r meini prawf a nodwyd ganddynt. Gall ceiswyr gwaith newid eu dewisiadau ar unrhyw adeg, neu ddatdanysgrifio o'r Swyddi trwy Wasanaeth E-bost ar unrhyw adeg.

Ein Rhwymedigaeth

Mae'r deunydd a gynhwysir ar NHS Jobs er gwybodaeth yn unig ac nid yw'n gyfystyr â chyngor. Dylech gynnal eich gwiriad eich hun, mewn perthynas ag unrhyw wybodaeth ar NHS Jobs a defnyddio eich barn eich hun cyn cymryd unrhyw gamau yn seiliedig ar wybodaeth a ddarperir ar NHS Jobs. Heblaw y nodir yn benodol yn ysgrifenedig, i ni neu sy'n ofynnol yn ôl y gyfraith, nid ydym yn rhoi unrhyw warantau o unrhyw fath mewn perthynas â'r deunyddiau ar NHS Jobs.

Nid ydym yn atebol am:

  • unrhyw gamau y gallwch eu cymryd o ganlyniad i ddibynnu ar unrhyw wybodaeth/deunyddiau a ddarperir ar Swyddi'r GIG neu am unrhyw golled neu ddifrod a ddioddefwyd gennych o ganlyniad i chi gymryd camau o'r fath.
  • unrhyw gysylltiad rydych yn cael â thrydydd parti (e.e. defnyddwyr neu hysbysebwyr eraill) sy'n digwydd gan ddefnyddio neu a hwyluswyd gan Swyddi'r GIG.
  • unrhyw atebolrwydd am golledion nad ydynt yn ganlyniad rhagweladwy neu debygol o (i) eich defnydd o NHS Jobs, neu (ii) torri’r telerau ac amodau hyn gennym ni.

We are not responsible if you experience difficulty accessing NHS Jobs because of any event outside our control (e.g. the performance of your or our internet service provider, your browser or the internet). Whilst we monitor NHS Jobs and try to fix bugs promptly we do not guarantee that NHS Jobs will be error free, available all the time, and/or free from viruses. Nothing in these terms and conditions affects any liability which we may have for death or personal injury arising from our negligence, fraud or any other liability which cannot be excluded or limited by law.

Dilysrwydd y Telerau ac Amodau hyn

Os canfyddir bod unrhyw ran neu ddarpariaeth o’r telerau ac amodau hyn yn anghyfreithlon neu’n anorfodadwy, ni fydd hyn yn effeithio ar ddilysrwydd unrhyw ran neu ddarpariaeth arall.

Y Gyfraith Gymwys ac Awdurdodaeth

Rheolir Swyddi'r GIG yn unol â chyfraith y Deyrnas Unedig a bydd unrhyw hawliad a wneir gennych yn deillio o, neu'n gysylltiedig â, defnyddio Swyddi'r GIG, yn amodol ar awdurdodaeth unigryw llysoedd Lloegr.

Hysbysiad o Newidiadau

Os bydd Awdurdod Gwasanaethau Busnes y GIG yn penderfynu newid y telerau ac amodau hyn, byddwch yn gallu cael mynediad at fanylion y newid yma.