Gwneud ceisiadau llwyddiannus

Unwaith y byddwch wedi llwyddo i ddod o hyd i swydd ble hoffech wneud cais amdani, mae angen i chi sicrhau bod eich cais yn gwneud cyfiawnder â chi ac yn rhoi'r cyfle gorau posibl i chi i gael cyfweliad. Mae hyn yn golygu darllen y disgrifiad swydd a manyleb y person a chymryd amser dros eich cais gan ddangos eich sgiliau a'ch profiad.

Pa mor dda ydych chi'n siwtio'r rôl?

Bydd pob cyflogwr yn barnu pa mor dda y mae eich cais yn cyfateb i 'fanyleb y person' ar gyfer y swydd yr ydych yn gwneud cais amdani. Yr ymgeiswyr sy'n cyfateb yn agos i fanyleb y person fydd y rhai sy'n cyrraedd y rhestr fer ar gyfer cael cyfweliad.

Er mwyn cael y siawns orau o dderbyn gwahoddiad yw i ddangos bod gennych y sgiliau a'r profiad fel y nodir yn y fanyleb person ac i ddarparu enghreifftiau clir yn yr adran gwybodaeth ategol.

Peidiwch byth â chyflwyno'r un ffurflen gais ddwywaith. Addaswch y cais bob tro i ddangos sut yr ydych yn bodloni manyleb y person ar gyfer y swydd benodol yr ydych yn gwneud cais amdani.

Cwblhewch bob rhan o'r ffurflen

Darllenwch y cyfarwyddiadau yn yr hysbyseb a’r ffurflen gais yn ofalus iawn a gwnewch yn siŵr eich bod yn llenwi pob adran o’r ffurflen gais. Bydd y wybodaeth a roddwch yn yr adran 'cais am gyflogaeth' yn cael ei defnyddio i benderfynu a ddylech chi gael eich rhoi ar y rhestr fer ar gyfer cyfweliad.

Ni ddefnyddir yr adrannau 'gwybodaeth bersonol' a 'gwybodaeth fonitro' ar gyfer llunio rhestr fer, ond cânt eu cadw at ddibenion gweinyddol yn unig.

Darparu gwybodaeth gefnogol dda

Yr adran 'gwybodaeth ategol' yw eich cyfle i werthu eich hun felly gwnewch yn siŵr eich bod yn manteisio arni. Gallwch gynnwys unrhyw wybodaeth yma nad yw wedi'i chynnwys unrhywle arall ar y ffurflen. Dangoswch pam y byddech chi'n addas a sut rydych chi'n bodloni manyleb y person. Mae angen i chi argyhoeddi'r sawl sy'n recriwtio bod gennych y sgiliau, y wybodaeth a'r profiad angenrheidiol ac y dylent fod yn eich gwahodd am gyfweliad.

Gallwch gynnwys, ymhlith pethau eraill, fanylion am:

  • eich dyletswyddau a'ch cyfrifoldebau;
  • eich sgiliau, gwybodaeth a/neu brofiad sy'n berthnasol i'r swydd;
  • nodi unrhyw fylchau cyflogaeth;
  • gwaith gwirfoddol yr ydych wedi'i gyflawni;
  • ymchwil, cyhoeddi a/neu brofiad o gyflwyno.
Gweld gwybodaeth am lenwi ffurflen gais.